Fe fydd gwledydd Prydain wedi cyfreithloni canabis o fewn 15 blynedd, yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol aeth ar daith ymchwil i Ganada.

Aeth y Ceidwadwr Jonathan Djanogly, Syr Norman Lamb o’r Democratiaid Rhyddfrydol a David Lammy o Lafur i Ganada fel rhan o ymweliad oedd wedi ei threfnu gan y grŵp Volte Face, a gyda nawdd rhannol gan y cwmni canabis MPX.

Canada oedd y wlad gyntaf o wledydd y G7 i gyfreithloni canabis y llynedd.

“Rwy’n credu bod gennym ni lawer i’w ddysgu cyn cyfreithloni canabis ar gyfer defnydd hamddenol, a fydd yn digwydd ar ryw bwynt yn fy marn i,” meddai Jonathan Djanogly wrth Newsbeat y BBC.

Ei gred yntau yw y bydd cyfreithloni yn digwydd o fewn tua 10 i 15 mlynedd tra bod David Lammy a Syr Norman Lamb yn credu y byddai’r cyffur yn cael ei gyfreithloni mewn tua phum mlynedd.

Dywedodd David Lammy ei fod eisiau gweld y farchnad yn cael ei chyfreithloni a’i rheoleiddio.

Mae canabis yn anghyfreithlon ar gyfer defnydd hamddenol ar hyn o bryd yng ngwledydd Prydain, er y gellir cael presgripsiwn i’w ddefnyddio ar gyfer dibenion meddyginiaethol.