Mae gwerth bron i £1.2bn o fwyd yn cael ei wastraffu ar ffermydd gwledydd Prydain neu’n cael ei ddefnyddio i fwydo anifeiliaid yn hytrach na phobol, yn ôl canlyniadau ymchwil newydd.

Yn ôl y corff gwastraff ac adnoddau Wrap, mae 3.6m tunnell o lysiau, ffrwythau, cnydau grawn, llaeth a chig gyn cael ei wastraffu neu ddim yn cael ei werthu i bobol gan ffermydd, sy’n cyfrif am 7% o gyfanswm cynhyrchiant gwledydd Prydain.

Mae’r ffigwr yn cynnwys 1.6m tunnell o fwyd cynaeafau neu anifeiliaid sy’n mynd i wastraff, yn cael ei anfon i safle tirlenwi, yn cael ei gompostio neu sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ynni a gwrtaith.

Yn ogystal, mae dwy filiwn tunnell o fwyd a fwriadwyd i’w fwyta gan bobl cynnyrch mewn perygl o fod yn wastraff sy’n dod yn fwyd anifeiliaid, yn cael ei ailddosbarthu i elusennau neu yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhoi lliw i bethau.

Mae gwastraff bwyd dros ben yn digwydd wrth i gynhyrchion gael eu graddio, eu pacio a’u golchi, neu sy’n cael eu gwrthod gan gwsmeriaid, meddai Wrap.

Maen nhw’n dweud y byddai bwyd wedi’i wastraffu â gwerth marchnad o tua £650m a bod bwyd dros ben yn werth mwy na £500m.