Wrth i Boris Johnson ddod yn brif weinidog newydd y Deyrnas Inedig, mae ymateb y byd gwleidyddol yn amrywio…
Mae Jeremy Hunt, a gollodd y ras, wedi llongyfarch Boris Johnson ar ôl ymgyrch “a fu’n frwydr dda”.
“Byddi di’n Brif Weinidog gwych i’n gwlad ar yr adeg dyngedfennol hon,” meddai.
Mae llawer o Dorïaid blaenllaw – yn cynnwys nifer a allai fod yn gobeithio am swyddi cabinet allweddol – wedi galw eto ar i’r blaid uno a sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn eu plith mae cyn-ymgeiswydd arall am yr arweinyddiaeth, Matt Hancock, ar Twitter: “Llongyfarchiadau mawr i Boris Johnson… Ma’n bryd i ni ei gefnogi i gyflwyno Brexit, uno’r wlad – ac yna mynd ymlaen at y pethau sy’n bwysig i bobol.”
Mae Sajid Javid wedi trydar teimladau tebyg: “Llongyfarchiadau @BorisJohnson ar fuddugoliaeth syfrdanol! Nawr gadewch i ni ddod ynghyd fel plaid dan ei arweinyddiaeth wych, fel y gallwn gyflwyno Brexit, uno ein gwlad wych a threchu Corbyn.”
Mae nifer o wrthwynebwyr Brexit heb gytundeb yn fwy distaw eu hymatebion, gyda’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Rory Stewart a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke ill dau yn nodi eu cynlluniau i ddychwelyd i’r meinciau cefn
Yn y cyfamser, mae’r Canghellor Philip Hammond – sydd hefyd wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo o’i swydd – wedi trydar: “Llongyfarchiadau @BorisJohnson! Rwyt ti wedi dweud yn glir iawn dy fod yn benderfynol o wneud bargen â Brwsel – a chei fy nghefnogaeth lwyr. Pob lwc!”
Gweddill y byd
Mae prif weinidog Awstralia, Scott Morrison, ynghyd â Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau wedi llongyfarch Boris Johnson.
Ac mse’r dyn a allai chwarae rhan allweddol yn addewid ymgyrch Boris Johnson, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at “weithio’n adeiladol” gyda Boris Johnson i “gyflawni Brexit trefnus”.
Llongyfarchodd Nicola Sturgeon, arweinydd SNP a Phrif Weinidog yr Alban, Boris Johnson ar ei etholiad ond cadarnhaodd y byddai paratoadau yn cael eu gwneud ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yr Alban.
“Byddaf yn parhau i symud ymlaen â’r paratoadau i roi’r hawl i’r Alban ddewis ein dyfodol ein hunain drwy annibyniaeth, yn hytrach na chael dyfodol nad ydym am i Boris Johnson a’r Torïaid ei osod arnom,” meddai.
“Mae hynny bellach yn bwysicach nag erioed.”