Mae Boris Johnson wedi cael ei ethol yn brif weinidog newydd gwledydd Prydain.
Cafodd y cynysgrifennydd tramor ei ethol i mewn gan fwyafrif helaeth o aelodau’r Blaid Geidwadol, gan guro Jeremy Hunt ar addewid i adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda neu heb gytundeb, erbyn Hydref 31.
Bydd yn cymryd drosodd fel prif weinidog yfory ar ôl cwestiynau terfynol Prif Weinidog Theresa May yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yna bydd Theresa May yn mynd i Balas Buckingham i ymddiswyddo’n ffurfiol ac argymell Boris Johnson fel ei holynydd.