Bydd naill ai Boris Johnson neu Jeremy Hunt yn dod yn arweinydd Ceidwadol newydd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23) wrth i ganlyniad y ras arweinyddol i olynu Theresa May gael ei gyhoeddi.
Bydd canlyniad y pôl o tua 160,000 o aelodau Torïaidd yn cael ei ddatgelu ychydig cyn canol dydd yn Llundain.
Roedd yr Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt mewn hwyliau cadarnhaol pan gyrhaeddodd adref o fod yn loncian y bore ma er bod Boris Johnson yn parhau i fod y ffefryn clir i gymryd yr awenau.
Gallai buddugoliaeth Boris Johnson sbarduno rhagor o ymddiswyddiadau gan y Llywodraeth ar ôl i Alan Duncan roi’r gorau i fod yn weinidog y Swyddfa Dramor ddoe i brotestio ar ei fuddugoliaeth ddisgwyliedig, gan ragweld “argyfwng llywodraeth” pe bai Boris Johnson yn dod yn brif weinidog.
Mae’r Canghellor Philip Hammond a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke wedi rhoi rhybudd y byddan nhwthau yn ymddiswyddo yn hytrach na gwasanaethu Boris Johnson.
Bydd Teresa May yn cyflwyno ei hymddiswyddiad i’r Frenhines ar ôl cymryd Cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn fory am y tro olaf, gyda’r arweinydd Torïaidd newydd yn mynd i Rif 10 yn fuan wedyn.