Mae arweinwyr yr wrthblaid yn India yn mynnu bod y prif weinidog, Narendra Modi, yn egluro ei safbwynt ar honiad Donald Trump iddo dderbyn cais i gynnal trafodaethau ar yr anghydfod rhwng India a Phacistan dros Kashmir.

Yn y senedd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23) mae disgwyl i Narendra Modi wadu gwneud cais i arlywydd yr Unol Daleithiau ymddwyn fel cyfryngwr rhwng y ddwy wlad.

Dywed arweinwyr yr wrthblaid, Anand Sharma a D Raja, mai safbwynt India yw bod Kashmir yn fater dwyochrog gyda Phacistan, ac na fydd yn derbyn unrhyw “drydydd parti” yn gyfryngwr.

Mae India a Phacistan wedi ymladd dau ryfel dros Kashmir, ac mae’r ddwy ochr yn mynnu eu hawl ar yr ardal ym mynydd-dir yr Himalaya.