Mae Alan Duncan wedi ymddiswyddo o’i waith yn weinidog yn y Swyddfa Dramor, a hynny cyn y mae disgwyl cyhoeddi canlyniad y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ddydd Mawrth (Gorffennaf 23) .
Roedd y gweinidog, sydd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, wedi bod yn hynod feirniadol o Boris Johnson sydd wedi datgan ei fod eisiau gadael yr UE erbyn diwedd mis Hydref.
Mae disgwyl y bydd Boris Johnson yn trechu’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt pan fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi’r wythnos hon. Mae’r blychau pleidleisio yn cau am 5yp heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22).
Bydd Alan Duncan yn un o sawl un a fydd yn ymadael ar yr un pryd â Theresa May yr wythnos hon ac yn camu o’r neilltu cyn y gall Boris Johnson eu diswyddo.
Mae’r Canghellor Philip Hammond a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw yn camu i lawr cyn i Boris Johnson ddod yn Brif Weinidog.