Bydd Theresa May yn cadeirio cyfarfod o bwyllgor argyfyngau Cobra y Llywodraeth heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22) ar ôl i dancer Prydeinig yng Ngheufor Persia gael ei gipio gan Iran.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog dderbyn diweddariadau gan weinidogion a swyddogion ynglŷn â’r sefyllfa a bydd yn trafod cynnal diogelwch llongau yn y rhanbarth.
Nid oedd Theresa May yn bresennol mewn cyfarfodydd Cobra dros y penwythnos, ond cafodd ei hysbysu am y datblygiadau.
Mae disgwyl hefyd i’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt wneud datganiad i Dŷ’r Cyffredin. Mae adroddiadau bod gweinidogion yn ystyried rhewi asedau Iran.
Yn y cyfamser mae Aelodau Seneddol Torïaidd blaenllaw wedi cynyddu eu beirniadaeth o Theresa May yn dilyn honiadau bod y Llywodraeth wedi gwrthod cynnig gan lynges yr Unol Daleithiau i warchod tanceri gwledydd Prydain yng Nghulfor Hormuz, llwybr llongau prysuraf y byd.
Dywedodd cymhorthydd seneddol y Canghellor Philip Hammond, Huw Merriman, wrth BBC Radio 4, bod y Llywodraeth wedi “colli cyfle” dros y sefyllfa.
“Er mwyn dangos nad ydw i’n byped i Philip Hammond na Jeremy Hunt, rwyf o’r farn ein bod wedi colli cyfle yma … wnaethon ni ddim rhoi trefniadau mewn lle yn galw ar ein holl longau i adael ar amser penodol mewn confoi,” meddai Huw Merriman.
“Felly, nid oedd yn syndod pan gafodd un o’n rhai ni eu cymryd,” ychwanegodd ar y rhaglen Westminster Hour.
Cyhuddodd Iain Duncan Smith, sy’n arwain ymgyrch Boris Johnson i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr, Theresa May o wneud “camgyfrifiad mawr” trwy wrthod cynnig yr Unol Daleithiau i amddiffyn llongau Prydain gan yr Arlywydd Donald Trump.
“Roedd Prydain yn cael cynnig pa bynnag gymorth oedd ei angen i ddiogelu llongau Prydain ac roedden nhw’n barod i helpu,” meddai’r cyn arweinydd Torïaidd wrth y Telegraph.
“Methodd y Llywodraeth i fachu ar y cynnig a’r rheswm oedd nad oeddem am gynhyrfu pobl Iran.”