Mae disgwyl i gabinet yr wrthblaid gwrdd heddiw i drafod gwrth-semitiaeth yn dilyn beirniadaeth o’r modd mae Llafur wedi delio gyda honiadau o fewn y blaid.
Daw’r cyfarfod wrth i bolau piniwn ddangos bod ’na ddirywiad yn y gefnogaeth i Jeremy Corbyn ymhlith aelodau’r blaid.
Yn ôl The Times, roedd 43% o 1,100 o aelodau’r blaid gafodd eu holi ar-lein yn teimlo nad oedd Jeremy Corbyn yn arweinydd da a bod yr hyder yn ei arweinyddiaeth wedi gostwng 24 pwynt ers mis Mawrth y llynedd.
Roedd 70% wedi dweud bod gwrth-semitiaeth yn broblem “go iawn” ac roedd mwy na hanner yn anfodlon gyda’r modd roedd wedi delio gyda Brexit. Roedd un ymhob pedwar am i Jeremy Corbyn gamu o’r neilltu ar unwaith, yn ôl pôl YouGov.
Fe fydd yr arweinydd yn wynebu Aelodau Seneddol wrth iddo annerch cyfarfod o’r blaid heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22).
Mae disgwyl i arglwyddi Llafur hefyd drafod cynnig o ddiffyg hyder yn Jeremy Corbyn gyda phleidlais yn cael ei chynnal ddydd Mawrth neu ddydd Mercher os yw’n cael ei basio.
Dros y penwythnos roedd prif grŵp Iddewig Llafur wedi ysgrifennu at bob aelod o gabinet yr wrthblaid yn galw arnyn nhw i ddatrys yr hyn maen nhw’n ei alw’n hiliaeth sefydliadol yn erbyn Iddewon o fewn y blaid.
Ddydd Sul, roedd y blaid wedi cyhoeddi deunydd addysgiadol i helpu ei haelodau a chefnogwyr i ddeall gwrth-semitiaeth.