Mae Llywodraeth Prydain yn “gofidio’n fawr” ar ôl i dancer olew Prydeinig gael ei gipio gan awdurdodau Iran yng Ngwlff Persia.
Cafodd y Stena Impero ei gipio yn Hormuz am “dorri rheolau morwrol rhyngwladol”, yn ôl adroddiadau, wrth i awdurdodau Iran ddweud bod yna wrthdrawiad â chwch pysgota wedi bod.
Ond mae Stena Bulk, sy’n berchen y tancer, yn mynnu nad oedd wedi torri unrhyw reolau.
Fe fu pwyllgor Cobra Llywodraeth Prydain yn trafod y mater mewn cyfarfod brys neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 19).
“Rydym yn bryderus iawn o hyd am weithredoedd annerbyniol Iran, sy’n arwydd o her glir i ryddid teithio rhyngwladol,” meddai llefarydd.
Mae llongau o wledydd Prydain wedi cael rhybudd i gadw draw o’r ardal am y tro, gyda Llywodraeth Prydain yn rhybuddio y bydd yna “ganlyniadau difrifol” os na fydd y mater yn cael ei ddatrys yn fuan.
Dydy Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain, ddim wedi gallu trafod y mater â Llywodraeth Iran hyd yn hyn.