Mae dathliadau ar y gweill i nodi 50 mlynedd ers y glaniad dynol cyntaf ar y lleuad.

Neil Armstrong oedd y person cyntaf i gamu ar y lleuad, ar Orffennaf 21, 1969, wrth iddo yngan ei eiriau enwog “One small step for man, one giant leap for mankind”.

Ef oedd arweinydd y criw Apollo 11, oedd hefyd yn cynnwys Buzz Aldrin.

Camodd Neil Armstrong ar y lleuad am 3.56 ar fore Orffennaf 21, 1969, ac fe ddilynodd Buzz Aldrin ei arweinydd eiliadau’n ddiweddarach, wrth i Michael Collins aros yn eu modiwl.

Wrth nodi’r achlysur hanesyddol, mae Mike Pence, Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud bod yr Arlywydd Donald Trump yn awyddus i weld llong ofod yn dychwelyd i’r lleuad ymhen pum mlynedd.

Dylanwad y digwyddiad hanesyddol

Yn ôl arolwg o 1,000 o blant rhwng wyth a 12 oed, mae 90% ohonyn nhw am ddysgu rhagor am y gofod.

Llwyddodd 87% ohonyn nhw i ddweud yn gywir mai Neil Armstrong oedd y person cyntaf i gamu ar y lleuad.

“Ro’n i’n wyddonydd gofod ifanc pan laniodd llong ofod Apollo 11, ond mae’r atgof o’r foment hanesyddol honno wedi aros gyda fi trwy gydol fy mywyd,” meddai’r Athro Mike Cruise, llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol.

“Fe wnaeth uchelgeisiau mawr rhaglen Apollo ysbrydoli pobol o amgylch y byd, ac mae’r hanner canmlwyddiant yn foment arbennig.”