Mae cryno-ddisg o ganeuon Cymraeg wedi cael ei lansio er mwyn helpu cleifion dementia mewn cartrefi gofal sy’n siarad Cymraeg.
Prifysgol Bangor a Merched y Wawr sy’n gyfrifol am y fenter sydd hefyd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Gall gwrando ar gerddoriaeth gyfarwydd o’r gorffennol helpu cleifion dementia, wrth eu cysuro, eu hysgogi a’u helpu i ddwyn i gof atgofion maen nhw wedi eu hanghofio.
Bydd holl gartrefi gofal Cymru’n derbyn copïau o’r cryno-ddisg.
Ymchwil a lansiad
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Bangor, gall cerddoriaeth leddfu iselder a difaterwch, a chyfrannu at well ansawdd bywyd i unigolion sy’n byw gyda dementia.
Mae cryn dipyn o weithgareddau cartrefi gofal yn digwydd trwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru ar hyn o bryd, a gall hynny arwain at golli cyfleoedd i helpu’r cleifion hynny sydd ag atgofion yn y Gymraeg.
Cleifion â dementia ym Metws ger Rhydaman oedd y bobol gyntaf i gael gwrando ar y cryno-ddisg newydd, wrth i ‘Cân y Gân’ gael ei lansio mewn digwyddiad arbennig yno ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 19).
Mae mil o gopïau wedi cael eu creu, ac mae pob cryno-ddisg yn cynnwys ugain o ganeuon, ac mae wedi cael ei roi at ei gilydd gan Alister O’Mahoney o Brifysgol Bangor, sydd wedi graddio mewn Cerddoriaeth, fel rhan o’i interniaeth gyda Dr Catrin Hedd Jones.
Mae pob cryno-ddisg hefyd yn cynnwys gwaith celf gan Phil Thompson o’r Rhuthun, sy’n byw gyda dementia.
Yn y lansiad roedd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, a’r canwr Rhys Meirion, gydag ‘Anfonaf Angel’ yn un o’r caneuon ar y cryno-ddisg yn dilyn pleidlais gyhoeddus.
‘Effaith anhygoel cerddoriaeth o’r gorffennol’
“Fel cyn-gadeirydd Live Music Now yng Nghymru, elusen sy’n hyrwyddo cerddoriaeth fyw mewn cartrefi gofal, rwyf wedi gweld dros nifer o flynyddoedd yr effaith anhygoel y gallai cerddoriaeth o’r gorffennol ei gael ar bobol sy’n byw gyda dementia,” meddai Eluned Morgan.
“Gwerthfawrogi cerddoriaeth yw un o’r galluoedd sy’n aros hiraf gyda phobl sy’n byw gyda dementia, ac i lawer ohonon ni yng Nghymru, mae’r caneuon sy’n golygu cymaint i ni yn cael eu canu yn Gymraeg.
“Mae gweld ymateb preswylwyr cartref Annwyl Fan heddiw yn dangos i ni sut y gall grym y gerddoriaeth effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl.
“Bydd y CD yma, rwy’n falch iawn i lansio heddiw yn helpu cysuro, hysgogi a dwyn i gof hen atgofion, a fydd yn helpu i wella ansawdd bywyd cymaint o siaradwyr Cymraeg sy’n byw gyda dementia.”
“Rwy’n croesawu’r adnodd gwerthfawr yma a fydd yn helpu siaradwyr Cymraeg sydd â dementia i deimlo’n ddibryder,” meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.
“Drwy fframwaith Mwy na Geiriau…., mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg. Mae iaith a gofal yn mynd law yn llaw, ac mae cyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf yn elfen allweddol o ddarparu gofal o ansawdd.”