“Mae gan bawb rôl i’w gyflawni” er mwyn mynd i’r afael ag eithafiaeth ac agweddau negyddol tuag at fewnfudwyr.
Dyna fydd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, yn ei ddweud wrth annerch elusennau ac academyddion yn ddiweddarach.
Mae’r gweinidog yn pryderu bod eithafwyr – boed yn Islamaidd, o’r dde, neu o’r chwith – yn ceisio creu “holltau” ac yn ymdrechu i “danseilio’r” Deyrnas Unedig.
Ac yn siarad nes ymlaen mi fydd yn galw ar bawb, ar bob rheng o gymdeithas, i wrthwynebu’r daliadau yma.
“Y cryfder i weithredu”
“Os ydyn ni eisiau stopio eithafiaeth, rhaid i ni fod yn ddigon dewr i fynd i’r afael â hi,” bydd Sajid Javid yn ei ddweud.
“Rhaid cael y cryfder i weithredu, a rhaid meddwl yn gall er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sy’n ei achosi. Mae’r ffordd rydym yn trafod gyda’n gilydd yn caledu ac yn troi’n llai adeiladol.
“Mae gan bawb rôl i’w gyflawni: darlledwyr trwy beidio â rhoi platfform i eithafwyr, heddlu trwy gael gafael ar y troseddwyr gwaethaf, a ffigyrau cyhoeddus trwy ddefnyddio iaith sy’n fwy cymedrol.”