Mae Gwenan Gibbard yn dweud bod cael y cyfle i astudio archif y diweddar Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn “fraint” iddi.
Daeth y cyhoeddiad yr wythnos hon mai’r delynores a’r gantores o Bwllheli yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol Merêd a Phyllis Kinney.
Bydd yr astudiaeth yn cychwyn ym mis Hydref ac yn canolbwyntio ar gyfraniad y ddau o Gwmystwyth i gerddoriaeth werin yng Nghymru.
Mae’r ysgoloriaeth yn cael ei chynnig fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng yr Archif Gerddorol Gymreig, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Edrych ymlaen yn arw”
“Dw i’n edrych ymlaen yn arw at gael cychwyn ar y gwaith fis Hydref ac yn ei theimlo hi’n fraint i gael y cyfle i dreulio cyfnod yn astudio archif dau o gewri byd cerddoriaeth werin Cymru,” meddai Gwenan Gibbard wrth golwg360.
“Mi fydd yna bwyslais ymarferol ar y gwaith, felly yn ogystal â thraethawd ymchwil, rhan o’r ddoethuriaeth fydd ailgyflwyno’r caneuon drwy berfformiadau, sgyrsiau, cyhoeddi a phrosiectau amrywiol eraill, a gobeithio, drwy hynny, ddwyn i’r amlwg, poblogeiddio a dyrchafu’r casgliad gwerthfawr yma.
“Mae yna lawer iawn o ganeuon anghyfarwydd yn yr archif, na chafodd eu cyhoeddi erioed o’r blaen a dw i’n teimlo’n gyffrous iawn wrth feddwl y caf gyfle i’w hailddarganfod a’u dwyn eto i olau dydd.”