Mae Geraint Lovgreen yn dweud nad oedd Meic Stevens wedi gwneud unrhyw sylwadau hiliol yn ystod Gŵyl Arall yng Nghaernarfon.

Daeth cadarnhad heddiw na fydd y canwr o Solfach yn ymddangos ar lwyfannau Sesiwn Fawr Dolgellau na Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrucywel yn dilyn sylwadau honedig am Fwslimiaid yn Neuadd y Farchnad ddydd Sul (Gorffennaf 14).

Yn ôl y gantores Sera Owen, sy’n enedigol o Gaernarfon ac yn un o artisitiaid y prosiect cerddoriaeth Gorwelion eleni, fe gerddodd hi a’i chariad allan o’r neuadd wedi i Meic Stevens sôn am ei brofiad ar y bws yng Nghaerdydd.

“Oedd hi’n gig dda, ac mi oedd pawb yn joio, ond tua diwedd y gig dyma fo’n dechrau sôn am fod ar fws yng Nghaerdydd ac mai dim ond pedwar person gwyn oedd ar y bws,” meddai Sera Owen wrth golwg360.

“Wnaeth o ddeud bod Mwslimiaid ar y bws yna, a wnaeth o ddeud rwbath fel ‘fe fyddan nhw yma yng Nghaernarfon cyn bo hir’.”

Amddiffyn y canwr

Fe fu Meic Stevens yn gwadu wrth golwg360 ei fod yn hiliol, ond yn cyfaddef ei fod wedi sôn am “Fwslimiaid ar fws ysgol” pan fyddai’n mynd i nôl ei wyres o’r ysgol yng Nghaerdydd.

Dywedodd nad oedd wedi gwneud sylw am Fwslimiaid “yng Nghaernarfon cyn bo hir” o gwbwl.

Ac mae Geraint Lovgreen yn ategu ei sylwadau.

“Rhaid i ti ddweud rhywbeth sarhaus am grŵp o bobl i gael dy alw’n hiliol, siawns?” meddai ar ei dudalen Twitter.

“Ma’n gyhuddiad difrifol, a den ni i gyd yn gwybod fod Meic jyst yn deud beth bynnag sy ar ei feddwl ar y pryd. Dim malais tu ôl i’r peth.”

Ymhelaethu ar ei amddiffyniad

“Rydach chi’n gwybod fel mae Meic,” meddai Geraint Lovgreen wrth golwg360, wrth ymhelaethu ar ei sylwadau ar Twitter.

“Aeth pawb yn bob man yn ddistaw – “O, be’ mae o’n mynd i’w ddweud rŵan?”

“Ond wnaeth o ddim deud unrhyw beth hiliol.”

Mae Geraint Lovgreen yn dweud mai “be’ sy’ ar Twitter ydi be’ glywais i o’n ddeud, a dyna fo”.

“Fel hyn mae hi’r dyddiau yma, ar Twitter a’r cyfryngau cymdeithasol,” ychwanegodd.