Fydd Meic Stevens ddim yn perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn Nghrucywel eleni.

Mae’n dilyn ffrae am sylwadau hiliol honedig a wnaeth ar lwyfan Gŵyl Arall yng Nghaernarfon, sydd hefyd wedi arwain at ansicrwydd ynghylch ei ymddangosiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Mae’r canwr o Solfach yn gwadu iddo wneud sylwadau hiliol, ac fe awgrymodd ddechrau’r wythnos ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i ganu yn Gymraeg.

Tra bo trefnwyr y Sesiwn Fawr yn dweud na fydd yn ymddangos yno y penwythnos hwn, mae gwesty’r Ship, lle’r oedd disgwyl iddo berfformio nos Wener (Gorffennaf 19), wedi dweud wrth golwg360 fod ei enw “yn dal yn y dyddiadur”.

‘Amharch’

Mewn datganiad, mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn dweud na fydd yn ymddangos yno rhwng Awst 15-18.

Roedd disgwyl iddo berfformio ar Lwyfan y Mynydd ar y dydd Sadwrn, ac mae ei enw’n dal ar wefan yr ŵyl ar hyn o bryd.

“Gallaf gadarnhau nad yw Meic Stevens bellach yn chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd,” meddai llefarydd ar ran yr ŵyl.

“Dydy unrhyw fath o amharch at eraill ddim yn dderbyniol, ac yn sgil ei sylwadau diweddar, fydd Meic Stevens ddim bellach yn chwarae yn y Dyn Gwyrdd.”