Mae enw Meic Stevens “yn dal yn y dyddiadur”, yn ôl y lleoliad a fydd yn cynnal gig Sesiwn Fawr Dolgellau y penwythnos hwn – yn groes i ddatganiad y trefnwyr na fydd e’n perffomio yno.
Yn ôl gwesty’r Ship, fe fydd y canwr o Solfach yn perfformio yno am 8.30 nos Wener.
Mae ei enw hefyd yn ymddangos o hyd ar wefan yr ŵyl, a does dim awgrym eto bod unrhyw un yn cymryd ei le.
Mae’n dilyn ffrae am sylwadau hiliol honedig y canwr o lwyfan Gŵyl Arall yng Nghaernarfon.
Mae Meic Stevens yn gwadu iddo wneud sylwadau hiliol, ac fe awgrymodd ddechrau’r wythnos ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i ganu yn Gymraeg.
Yn dilyn adroddiadau na fyddai’n ymddangos yn Sesiwn Fawr, doedd y trefnwyr ddim wedi cadarnhau ai eu penderfyniad nhw neu’r canwr ei hun oedd peidio ymddangos yn y digwyddiad eleni.
Ond fe ddywedon nhw y byddai’r amserlen a’r rhaglen yn cael eu haddasu.
Datganiad y trefnwyr
“Ni fydd Meic Stevens yn ymddangos ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau eleni,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.
“Bydd yr amserlen a’r rhaglen yn cael ei addasu o ganlyniad i hyn.
“Gan nad oedd neb o’n pwyllgor yn bresennol yng Ngŵyl Arall dros y penwythnos ni allwn fynegi unrhyw sylw ar y digwyddiadau parthed y canwr yno.”