Mae aelod o fainc flaen y Blaid Lafur wedi colli ei sedd ar ôl iddi gymharu rhai o uwch-swyddogion ei phlaid â “chylch dethol” Adolf Hitler.
Yn sgil ei sylwadau bydd y Fonesig Dianne Hayter yn colli’i rôl yn weinidog Brexit cysgodol, ond mi fydd yn parhau’n arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi – gan fod y rôl honno’n etholedig.
Daw ei diswyddiad wedi iddi annerch un o grwpiau’r blaid, Labour First, gan gyhuddo cyfeillion agosaf Jeremy Corbyn, ei harweinydd, o beidio â rhannu gwybodaeth ag uwch-swyddogion eraill.
“[Dw i’n siŵr eich bod] wedi gwylio Bunker,” meddai, “sef ffilm am ddyddiau diwethaf Hitler. Mae’r cylch dethol yn stopio derbyn unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu nad yw pethau’n mynd yn iawn.”
Ymateb y Blaid Lafur
“Mae Dianne Hayter wedi cael ei diswyddo o’i safle ar y fainc flaen – a hynny’n syth – yn sgil ei sylwadau hynod sarhaus am Jeremy Corbyn a’i swyddfa,” meddai llefarydd.
“Mae cymharu arweinydd Llafur, a staff y Blaid Lafur sy’n gweithio er mwyn rhoi llywodraeth Llafur mewn grym, i gyfundrefn y Natsïaid yn bur ddirmygus.
“Mae hefyd yn ofnadwy o ansensitif i staff Iddewig.”
Daeth sylwadau Dianne Hayter yn rhannol yn ymateb i driniaeth y blaid â gwrth-Semitiaeth ymhlith ei haelodau.