Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddau berson marw gael eu darganfod yn Llundain.
Cafodd y pâr – dyn yn ei 60au, a’r ddynes yn ei 70au – eu trywanu i farwolaeth, yn ôl awdurdodau.
A chawson nhw eu darganfod mewn cartref yn Redfern Avenue yn Whitton, de ddwyrain Llundain, ar fore dydd Gwener (Gorffennaf 12).
Bellach, mae dyn 31 blwydd oed wedi cael ei arestio yn Slough ar amheuaeth o lofruddio.
“Achos ynysig”
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau’r meirw,” meddai’r Uwch Arolygydd, Sally Benatar. “Hoffwn dawelu meddwl y gymuned gan ddweud mai achos ynysig yw hyn.
“Ar ôl arestio’r dyn, dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r ddwy farwolaeth.”