Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon gwario biliwn o bunnau er mwyn lleddfu tagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd, yn ôl Mark Drakeford.
Daeth sylwadau Prif Weinidog Cymru yn ystod cyfarfod pwyllgor Cynulliad yn Wrecsam ar fore dydd Gwener (Gorffennaf 12).
Fis diwethaf penderfynodd Mark Drakeford gefnu ar gynlluniau i adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4, a bellach mae gwleidydd wedi ei benodi i fynd i’r afael â thagfeydd ar y ffordd.
Yr Arglwydd Burns yw’r gŵr hwnnw, ac mae yntau’n Gadeirydd ar y rheoleiddiwr, Ofcom, ac yn gyn-Ysgrifennydd Parhaol i Drysorlys y Deyrnas Unedig.
Datrysiadau
Yn siarad yn y cyfarfod dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi annog Arglwydd Burns i “beidio poeni am yr agwedd ariannol” o’i waith.
“Roeddem yn barod i wario biliwn o bunnau i fynd i’r afael â’r broblem o amgylch Casnewydd,” meddai yn ôl y BBC. “Ac ef sy’n cael y cyfle cyntaf i hawlio peth o’r arian yna.
“Dw i ddim eisiau [pryderon am] arian i’w rhwystro rhag cyflwyno datrysiadau newydd.”