Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 26 oed a gafodd ei saethu yn Llundain.
Mae Alhassan Jalloh, 20, a Karlos Gracia, 22, wedi’i cyhuddo o ladd Kwasi Mensah-Ababio. Fe ddaeth yr heddlu o hyd i’w gorff ar dir Monks Park yn Wembley nos Sul (Gorffennaf 7).
Fe gafodd plismyn eu galw toc wedi 7yh, a dod o hyd i Kwasi Mensah-Ababio gydag anafiadau difrifol i’w ben. Ef oedd y trydydd person i gael ei saethu’n farw yn Llundain dros y penwythnos.
Mae disgwyl i Alhassan Jalloh a Karlos Gracia ymddangos gerbron Llys Ynadon Willesden heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 12).