Mae plentyn 13 oed wedi chwythu ei hun i fyny mewn priodas yn nwyrain Affganistan, gan ladd pump o bobol ac anafu 11 arall.
Fe ddaeth cadarnhad gan heddlu lleol o’r digwyddiad ben bore heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 12).
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Pachirwa Agham yn nhalaith Nangarhar.
Does neb hyd yma wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, ond mae gan y Taliban ac ISIS bresenoldeb cryf yn yr ardal.