Mae’r dringwr a gafodd ei weld yn dringo adeilad uchaf Llundain – heb offer diogelwch – wedi osgoi cael ei arestio.
Cafodd y dyn ei weld ar ochr y Shard am 5.15yb heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 8), cyn cael ei holi gan yr heddlu y tu fewn i’r adeilad.
Yn ôl yr Heddlu Metropolitan, ni chafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd yn ei erbyn.
Nid dyma’r tro cyntaf i berson ddringo’r adeilad 1,017 troedfedd, sy’n cael ei hystyried ymhlith yr adeiladau talaf yn Ewrop.
Yn 2017, fe geisiodd CassOnline, sy’n cyhoeddi deunydd ar wefan YouTube, gyrraedd brig yr adeilad, a cheisiodd grŵp o ymgyrchwyr Greenpeace gyflawni’r un weithred yn 2013 hefyd.
Yn 2012 wedyn, fe lwyddodd y Shard i gael gorchymyn gan yr Uchel Lys er mwyn atal Alain Robert, sy’n cael ei adnabod fel y ‘Spiderman Ffrengig’, rhag dringo’r adeilad.