Mae merch 11 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl iddi hi, ei mam a’i dwy chwaer gael eu trywanu yng ngogledd Llundain.
Mae’r ddynes, sydd yn ei 30au, a dwy ferch 12 oed mewn cyflwr sefydlog a dydy eu bywydau ddim mewn perygl erbyn hyn.
Cafodd dyn 44 oed ei arestio yn y fan a’r lle ar amheuaeth o geisio’u llofruddio yn ardal Enfield, ar ôl i’r heddlu gael eu galw am 12.13yp.
Mae’r dyn sydd wedi’i arestio yn adnabod y ddynes a’i merched, a dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall, wrth iddyn nhw ymchwilio i’r digwyddiad ac apelio am wybodaeth.