Mae ymgyrchwyr yn croesawu’r newyddion na fydd llofruddwyr yn cael parôl os ydyn nhw’n gwrthod datgelu ble maen nhw wedi cuddio cyrff eu dioddefwyr.

Un o’r ymgyrchwyr yw mam Helen McCourt, dynes 22 oed a gafodd ei llofruddio gan Ian Simms yn 1988.

Mae’r cyn-landlord tafarn yn gwrthod dweud ble mae ei chorff, ar ôl iddi ddiflannu ar ei ffordd adref o’r gwaith.

Cafwyd e’n euog o’i llofruddio ar sail tystiolaeth DNA, ac mae ei mam wedi bod yn ymgyrchu i’w gadw yn y carchar hyd nes y bydd yn fodlon dweud ble mae ei chorff.

Cafodd y cynlluniau i wrthod parôl o dan amgylchiadau o’r fath eu pasio gan wleidyddion yn San Steffan yn 2016, ond doedd y llywodraeth ddim wedi rhoi eu sêl bendith tan ddiwedd yr wythnos hon.

Deddf Helen

Yn ôl Deddf Helen, bydd byrddau parôl yn gorfod ystyried diffyg cydweithredu llofrudd wrth benderfynu a fydd yn cael ei ryddhau ar barôl.

Dywed Marie McCourt ei bod yn gobeithio y byddai’r ddeddf yn tynnu grym oddi ar y rheiny sydd dan glo, ac na fyddai’n golygu y byddai’r rheiny sy’n cydweithredu yn cael eu rhyddhau yn awtomatig.

“Alla i wir ddim ei gredu. Dw i wedi bod yn trio ers cyhyd,” meddai wrth Press Association.

“Fe fu’n straen ofnadwy arnaf i ers i fi ddechrau’r ddeiseb yn 2015.

“Cafodd ei chymeradwyo trwy bleidlais yn y Senedd ond roedd oedi wedyn ar ôl yr etholiad cyffredinol.”

Ymateb y llywodraeth

“Mae’n arbennig o greulon amddifadu teuluoedd sy’n galaru o’r cyfle i roi eu hanwyliaid sydd wedi’u llofruddio i orffwys, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â Marie McCourt ac eraill yn ei sefyllfa hi,” meddai David Gauke, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan.

“Dylai’r rheiny sy’n gyfrifol wybod os ydyn nhw’n dewis pentyrru hyn ymhellach trwy eu hymddygiad, y byddan nhw’n cael eu dwyn i gyfrif.”