Mae miloedd o bobol yn gorymdeithio ar strydoedd Llundain ar gyfer digwyddiad Pride heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 6).

Mae disgwyl i’r digwyddiad fod yn fwy nag erioed o’r blaen, wrth i Stonewall nodi hanner canrif ers y gwrthdystiad hanesyddol ar strydoedd Efrog Newydd.

Bydd y parêd yn gyfle i nodi’r datblygiadau sydd wedi bod yn hawliau pobol LHDT+ dros yr hanner canrif diwethaf.

Mae’r trefnwyr yn darogan fod hyd at 1.5m o bobol wedi heidio i’r ddinas, ac fe fydd oddeutu 600 o grwpiau’n cymryd rhan, sy’n golygu cynnydd o 25% o’i gymharu â’r llynedd.

Am y tro cyntaf erioed eleni, mae digwyddiadau yn Soho i dynnu sylw at gyfraniad pobol o leiafrifoedd ethnig i hawliau’r gymuned LHDT+.

Ac mae Extinction Rebellion wedi annog y trefnwyr i gyhoeddi argyfwng hinsawdd ar drothwy’r digwyddiad.

‘Digwyddiad gydol y flwyddyn’

“Wrth i ni fynd allan ar strydoedd Llundain unwaith eto, mae’n hanfodol ein bod ni’n cofio nad un diwrnod y flwyddyn yn unig mo digwyddiad Pride – rhaid i ni frwydro tros hawlio holl aelodau’n cymuned drwy gydol y flwyddyn,” meddai Alison Camps, cyd-gadeirydd Pride yn Llundain.

“Ym mlwyddyn y pen-blwydd mawreddog, rhaid i ni feddwl am ba mor bell ddaethon ni, ac am y cyfraniadau a’r aberth a gafodd eu gwneud gan ferched traws o liw i’n cael ni i’r fan lle’r ydyn ni heddiw.”