Mae dau ddyn o wledydd Prydain wedi marw ar ôl syrthio oddi ar draeth yn Sbaen.
Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Punta Prima, ger Torrevieja yn Alicante.
Fe gafodd trydydd dyn ei gludo i’r ysbyty hefyd, ond wedi’i anfon adref erbyn hyn.
Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd dan ddyn o wledydd Prydain yn dilyn marwolaethau’r gwŷr yn Alicante.
“Roedd Prydeiniwr arall yn rhan o’r ddamwain,” meddai’r llefarydd wedyn, “ac rydan ni’n cynorthwyo ei deulu yntau hefyd.”