Mae teyrnged wedi ei rhoi i’r ail weithiwr fu farw ar ôl cael ei daro gan drên ger Port Talbot ganol yr wythnos.
Roedd Michael ‘Spike’ Lewis o Ogledd Corneli ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn ddyn “yr oedd pawb yn ei nabod ac yn ei garu,” meddai ei deulu.
Cafodd y gŵr, 58, ei ladd ochr yn ochr a’i gyd-weithiwr, Gareth Delbridge, 64, o Fynydd Cynffig ar y traciau ddydd Mercher (Gorffennaf 3).
Cred yr heddlu yw bod y ddau ddyn wedi methu â chlywed y trên yn dod oherwydd eu bod yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw.
Dywed yr Adran Ymchwilio Damweiniau Rheilffyrdd (RAIB) fod trydydd gweithiwr yn “agos iawn at gael ei daro,” ac mae wedi gorfod derbyn triniaeth am sioc.
Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn San Steffan, Chris Grayling, wedi agor ymchwiliad i’r digwyddiad wrth i bwysau gynyddu ar Network Rail i ddarparu atebion.