Mae ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol, Jeremy Hunt, yn dweud y byddai’n ceisio cyfreithloni hela llwynogod os y bydd yn ennill y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf gwledydd Prydain.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, fe fyddai’n cynnwys hyn yn ei faniffesto oherwydd bod hela llwynogod “yn rhan o gefn gwlad” ac y byddai’n “hapus i bobol ail-afael yn yr arfer”.
Mae’r blaid Lafur wedi beirniadu sylw Jeremy Hunt gan ddisgrifio hela llwynogod fel “gweithred farbaraidd”.
Mewn cyfweliad a phapur The Daily Telegraph, mae Jeremy Hunt yn dweud y byddai’n cefnogi pleidlais ar y mater yn San Steffan, gan gredu bod y mwyafrif Aelodau Seneddol yno’n dueddol o’i gefnogi.
“Dydw i ddim yn hela fy hun,” meddai. “Dyw e ddim yn rhywbeth dw i’n wneud… ond mae’n rhaid i ni gydnabod ei fod yn rhan o gefn gwlad.
“Ac rwy’n credu bod yn rhaid i ni gydnabod, o ran cydbwysedd cefn gwlad, ei fod yn rhan o’n treftadaeth.”
Mae hela llwynogod wedi cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr ar ôl i Ddeddf Hela 2004 gael ei chyflwyno.