Roedd y ddau weithiwr Network Rail a gafodd eu taro a’u lladd gan drên ym Mhort Talbot ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 3) yn gwisgo offer i amddiffyn eu clustiau ar y pryd – ac heb glywed y trên yn dod.
Bu farw’r ddau weithiwr, sef Garet Delbridge, 64 o Fynydd Cynffig, a’i gydweithiwr 58 oed o Ogledd Corneli, sydd heb gael ei enwi’n swyddogol eto, ar ôl i drên eu taro tua 10 o’r gloch y bore.
Cafodd trydydd gweithiwr ei drin am sioc yn y fan a’r lle, ond ni chafodd unrhyw anafiadau.
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth llywodraeth San Steffan, Chris Grayling, wedi agor ymchwiliad i’r digwyddiad wrth i bwysau gynyddu ar Network Rail am atebion.
“Mae camau cychwynnol yr ymchwiliad yn awgrymu bod y ddau ddyn a fu farw wedi bod yn gwisgo amddiffynwyr clustiau ar y pryd, ac yn drasig, heb glywed y trên teithwyr yn nesáu,” meddai’r Uwch-arolygydd Andy Morgan o Heddlu Trafnidiaeth gwledydd Prydain.