Roedd gwesteion ar raglen Jeremy Kyle wedi derbyn rhybudd am ei “ddull cyflwyno” cyn recordio’r sioe, yn ôl dogfennau.

Mae Aelodau Seneddol wedi rhyddhau dogfennau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen ar drothwy ymddangosiad penaethiaid ITV gerbron panel seneddol.

Mae’r dogfennau yn cynnwys y gyfres o ganllawiau a chwestiynau a gyflwynwyd i westeion cyn ymddangos ar y rhaglen, ac yn nodi’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw cyn ac ar ôl recordio.

Ymhlith y cwestiynau mae un sy’n holi a fyddai gwesteion yn gallu delio â’r “sefyllfa waethaf posib” os ydyn nhw’n methu’r prawf adnabod celwydd.

Maen nhw hefyd yn holi’r cyfranwyr a ydyn nhw’n barod i dderbyn na fydd Jeremy Kyle yn cytuno â’u safbwyntiau, ac yn feirniadol ohonyn nhw os yw’n credu eu bod yn anghywir.

Mae’r dogfennau wedyn yn cyfeirio at y gwasanaeth cwnsela sydd ar gael i westeion wedi iddyn nhw ymddangos ar y rhaglen.

The Jeremy Kyle Show – cefndir

Fe benderfynodd ITV roi’r fwyell i’r Jeremy Kyle Show ym mis Mai, yn dilyn marwolaeth un o gyfranwyr y rhaglen, Steve Dymond.

Yn wreiddiol, roedd ITV wedi penderfynu gohirio’r rhaglen dros dro, cyn ufuddhau i alwadau gan wleidyddion a’r cyhoedd i ddod â’r rhaglen i ben yn gyfan gwbl.

Ers hynny, mae’r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi bod yn ymchwilio i deledu realaeth.

Penaethiaid ITV yw’r cyntaf i gyflwyno tystiolaeth gerbron y pwyllgor. Ond mae Jeremy Kyle ei hun wedi gwrthod cael ei holi yn rhan o’r ymchwiliad.