Mae’r cyn-ddirprwy brif weinidog Llafur, yr Arglwydd Prescott, wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl iddo gael strôc.

Cafodd John Prescott, sy’n 81 oed, ei gludo mewn ambiwlans i’r ysbyty yn Hull ddydd Gwener, meddai ei deulu mewn datganiad.

Roedd John Prescott yn ddirprwy brif weinidog i Tony Blair am 10 mlynedd ar ôl i Lafur ddod i rym yn etholiad cyffredinol 1997.

Roedd wedi camu o’r neilltu fel dirprwy brif weinidog yn 2007.