Mae dyn yn ei 20au wedi cael ei saethu’n farw yng ngorllewin Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Feltham toc ar ôl 11 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Mehefin 21).

Cafodd heddlu arfog, ambiwlans awyr a’r gwasanaeth ambiwlans hyd i’r dyn ag anafiadau difrifol.

Bu farw yn y fan a’r lle yn ddiweddarach, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.