Fe fydd y Blaid Lafur yn dal i drafod ei safbwynt ar Brexit trwy ymgynghori ag undebau a’i phwyllgor gwaith cenedlaethol dros y dyddiau nesaf.

Yn dilyn cyfarfod o gabinet yr wrthblaid ddoe, mae’n ymddangos fod yr arweinydd Jeremy Corbyn wedi cytuno i ymrwymo i gynnal refferendwm arall gyda “dewisiadau clir”.

Nid yw’n glir fodd bynnag a fyddai Llafur yn ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd mewn refferendwm o’r fath.

Dyw hyn ddim yn ddigon da, yn ôl y Dirprwy Arweinydd Tom Watson, sy’n rhybuddio y bydd hi ar ben ar y blaid os na fydd yn ymrwymo i geisio gwrthdroi Brexit.

“Mae er budd y wlad ein bod yn dod yn blaid sy’n cefnogi aros a diwygio’r Undeb Ewropeaidd a’n bod ni’n gadael i bobl gael y dewis terfynol ar unrhyw gytundeb.”

Mewn arwydd o raniadau Llafur, fodd bynnag, mae 26 o ASau wedi ysgrifennu at Jeremy Corbyn yn pwyso arno i gefnogi cytundeb Brexit cyn 31 Hydref.