Heddiw yw cyfle olaf etholwyr Brycheiniog a Maesyfed benderfynu a oes arnynt eisiau cael gwared ar eu Haelod Seneddol.
Fe fydd y Ceidwadwr Chris Davies, 51, yn wynebu isetholiad os yw 10% – tua 5,600 o bobol – o’i etholaeth yn llofnodi deiseb adalw yn ei erbyn.
Cafodd yr Aelod Seneddol ei ganfod yn euog o wneud ceisiadau ffug am arian ar ôl cyfaddef cyflwyno dwy anfoneb i ariannu dau dirlun i addurno ei swyddfa newydd yn 2015.
Fe gafodd ddirwy o £1,500 a £2,500 tuag at gostau cyfreithiol, ar ben gorchymyn i gynnal 50 awr o wasanaeth cymdeithasol.
Deiseb adalw
Mae’r ddeiseb wedi bod ar agor ers Mai 9 ac mae etholwyr Chris Davies wedi cael chwe wythnos nes heddiw pan cau am 5 o’r gloch.
Fe fydd nifer llofnodwyr y ddeiseb yn cael eu cyfrif am 10 bore fory (Dydd Gwener, Mehefin 21) yn Neuadd y Sir Llandrindod ym Mhowys.
Fel rheol mae deisebau fel hyn yn cael eu cynnal pan fydd Aelodau Seneddol yn cael dedfryd o garchar, dedfrydau gohiriedig, yn cael eu gwahardd o’r Cyffredin am 10 diwrnod o eistedd, neu yn euog o ddarparu gwybodaeth ffug am eu harian.
Cyn Aelod Seneddol Llafur Peterborough, Fiona Onasanya oedd yr Aelod cyntaf i gael ei thaflu o’r Senedd mewn deiseb adalw ym mis Mai ar ôl iddi gael ei charcharu am wyrdroi cwrs cyfiawnder.