Mae Boris Johnson wedi cael ei gymharu gydag Adolf Hitler gan gadeirydd grŵp Mwslimaidd o fewn y Blaid Geidwadol.

Yn ôl Mohammed Amin o’r Fforwm Mwslimaidd, mae’n bwriadu gadael y blaid os bydd y ffefryn i olynu Theresa May, yn cael ei ddewis yn arweinydd.

“Dydw i ddim yn awyddus i fod yn aelod o blaid sy’n dewis [Boris Johnson] i fod yn arweinydd,” meddai Mohammed Amin wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Mi fydda i’n ymddiswyddo wedi 36 o flynyddoedd.”

Wrth gael ei holi ynghylch poblogrwydd Boris Johnson ymhlith Ceidwadwyr ar lawr gwlad, dywedodd Mohammed Amin fod hynny’n amherthnasol wrth ystyried pa un a fyddai’r gwleidydd yn gwneud arweinydd da ai peidio.

“Mae yna nifer o bobol ffiaidd wedi bod yn boblogaidd,” meddai. “Dydy poblogrwydd ddim yn profi dim.

“Y prawf ydy: a yw’r person hwn yn ddigon moesol i fod yn Brif Weinidog? Dw i’n meddwl ei fod e’n methu’r prawf.

“Roedd lot o Almaenwyr yn credu mai Hitler oedd y dyn iawn iddyn nhw,” ychwanegodd.

Fe aeth Mohammed Amin ymlaen i amddiffyn ei gymhariaeth, gan ddweud: ‘Dw i ddim yn dweud bod Boris Johnson eisiau anfon pobol i siambr nwy – mae’n amlwg nad yw eisiau hynny.

“Ond mae’n ffŵl.”