Mae dau berson yn cael eu holi mewn cysylltiad â lladrad yn siop Apple yn Covent Garden yn Llundain bore ma.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 1am ar ôl i ffenest y siop gael ei malu a chafodd nifer o nwyddau Apple, gan gynnwys iPads, eu dwyn.
Mae’n debyg bod saith o ddynion yn gwisgo mygydau ac yn reidio mopedau a beiciau modur wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
Cafodd bachgen 16 oed a dyn 21 oed eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth. Mae’r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn ngogledd Llundain.
Dywed Scotland Yard eu bod yn parhau a’u hymchwiliad ac yn apelio am wybodaeth.