Fe fydd achos llys yn erbyn cymydog sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r pensaer Joanna Yeates yn dechrau ym Mryste heddiw.
Mae Vincent Tabak, 33, yn gwadu cynllwynio i lofruddio Joanna Yeates.
Cafodd corff y pensaer ei ddarganfod yn yr eira ar fore ‘Dolig flwyddyn ddiwethaf.
Mae disgwyl i’w chariad, Greg Reardon, a’i rhieni, David a Teresa – fynychu’r diwrnod cyntaf o dystiolaeth yn Llys y Goron Bryste.