Mae disgwyl i David Cameron gyflwyno mesurau llym i’r system mewnfudo heddiw.

Mae’r mesurau yn cynnwys rheolau i’w gwneud yn anoddach i gael fisa mewn ymdrech i leihau nifer y ffug briodasau.

‘Siarad Saesneg’

Mewn araith heddiw, fe fydd y Prif Weinidog yn dweud bod yn rhaid i berthnasau sy’n ymuno â’u teuluoedd yn y DU allu siarad Saesneg a bod â digon o arian i’w cynnal.

Fe fydd David Cameron yn dweud bod y Llywodraeth eisiau atal mewnfudwyr rhag bod yn faich ar y trethdalwr. Mae disgwyl iddo ddiystyrru addewidion o gymorth ariannol gan deulu a ffrindiau wrth ystyried ceisiadau a gorfodi rhai ymgeiswyr i dalu bond.