Liam Fox
Fe fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox yn wynebu cwestiynau Aelodau Seneddol heddiw ynglŷn â’i berthynas waith â’i ffrind Adam Werritty.

Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron hefyd yn ystyried casgliadau cychwynol ymchwiliad mewnol i gysylltiad Liam Fox a’i ymgynghorydd answyddogol Adam Werritty i weld a yw’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi torri’r côd ymddygiad i weinidogion.

‘Camgymeriad’

Neithiwr, ar ôl i Liam Fox ddychwelyd i Brydain ar ôl ymweliad swyddogol â Libya, dywedodd mewn datganiad ei fod yn ymddiheuro am wneud “camgymeriad” ynglŷn â’i berthynas waith â Adam Werritty.

Dywedodd Liam Fox   y gallai ei gysylltiad â Adam Werritty fod wedi ei gamddeall “gan roi’r argraff fod Mr Werritty yn ymgynhgorydd swyddogol yn hytrach na ffrind.”

Dywedodd ei fod wedi “dysgu gwersi” o’r profiad.

Ymddiheuro

Mae Dr Liam Fox hefyd wedi ymddiheuro wrth David Cameron ac mae disgwyl iddo wneud penderfyniad ynglŷn â dyfodol Liam Fox heddiw, ar ôl iddo dderbyn adroddiad i’r mater.

Ychwanegodd Liam  Fox ei fod yn derbyn y dylai “fod wedi cymryd mwy o ofal i sicrhau bod unrhyw gyfarfodydd gyda Adam Werritty – lle roedd materion yn ymwneud â diogelwch ac amddiffyn yn cael eu trafod – yn cael eu cofnodi ac y dylai swyddog fod yn bresennol – er mwyn gwarchod fy hun a’r Llywodraeth rhag awgrymiadau o gamweithredu.”

Dywedodd Liam Fox y byddai’n “ateb cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin” ar ôl i’r Blaid Lafur bwyso arno i wneud datganiad llawn.