Mae llysgennad o Tsieina wedi rhybuddio yn erbyn gwahardd y cwmni technoleg, Huawei, o’r rhwydwaith 5G yng ngwledydd Prydain.
Dywedodd Liu Xiaoming wrth y BBC y byddai cam o’r fath yn anfon “neges wael iawn” ac yn codi amheuon ymhlith cwmnïau o Tsieina ynglŷn â pha mor gyfeillgar yw gwledydd Prydain i fusnesau.
“Dw i’n meddwl y byddai’n anfon neges wael iawn… nid yn unig o ran masnach, ond o ran buddsoddi hefyd,” meddai’r llysgennad.
Mae Huawei yn un o’r cwmnïau technoleg mwyaf yn y byd sy’n meddu ar y dechnoleg i greu rhwydweithiau 5G.
Ond mae pryderon ynghylch cysylltiad y cwmni a Llywodraeth Tsieina, a’r posibilrwydd bod y llywodraeth honno yn defnyddio rhwydweithiau ar gyfer ysbïo.
Mae Huawei wedi gwadu’r amheuon hyn – er bod yr Unol Daleithiau yn annog ei chynghreiriaid i gadw draw o’r cwmni.
Mae Llywodraeth Prydain, ar y llaw arall, yn mynnu nad oes yr un penderfyniad wedi ei wneud ynghylch presenoldeb Huawei yn y rhwydwaith 5G arfaethedig.