Mae cyn-arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, wedi mynnu bod yn rhaid i’r llywodraeth yn San Steffan ddangos arweiniad ar fater newid yn yr hinsawdd – ac nid bodloni ar osod targedau yn unig.
Mae’n croesawu symudiadau i geisio lleihau allyriadau carbon i “net sero” erbyn 2050.
Ond rhybuddiodd fod yn rhaid i’r llywodraeth ategu hyn gyda’r polisïau cywir, gan gynnwys cyflwyno’r dyddiad i ddiddymu cerbydau petrol a disel newydd.
“Mae’n ddigon posib y bydd angen cyflwyno’r dyddiad sero net o 2050 ymlaen,” meddai.
“A gaf i, fodd bynnag, ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol gydnabod bod y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yn ei argymhellion, wedi dweud yn benodol iawn, yn ogystal â gosod y targed ei hun, bod yn rhaid i’r llywodraeth roi’r polisïau ar waith er mwyn cyrraedd y targed.
“Mae hynny’n golygu, ddedlein 2030 ar gyfer cerbydau petrol a disel newydd – nid 2040.
“Ac mae’n gpkygu cynllun dad-garboneiddio priodol ar gyfer ein 27 miliwn o gartrefi.”