Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth gwraig yn Angus.

Fe gafwyd hyd i Neomi Smith, 23, yn Swan Street, Brechin, tua 1.30yb ddydd Sul (Mehefin 9), a bu farw’n ddiweddarach yn y man a’r lle.

Mae Keith Rizzo, 23, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, ac wedi ymddangos gerbron Llys Siryf Forfar.

Dyw e ddim wedi cyflwyno plê, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa.