Mae cyn-wraig brawychwr London Bridge, wedi torri i lawr yn y llys wrth iddi ddwyn i gof y trais yr oedd Rachid Redouane yn gyfrifol amdanyn nhw.

Roedd Charisse O’Leary yn rhoi tystiolaeth gerbron cwest i farwoalethau’r rheiny a laddwyd gan ei gŵr.

“Doedd gen i ddim syniad y byddai fy ngŵr yn gallu achosi’r fath dywallt gwaed,” meddai, gan ddechrau beichio crïo.

“Ro’n i wedi dychryn o ddeall y gallai wneud y ffasiwn beth.”

Roedd y ddau wedi cyfarfod mewn clwb nos yn Manceinion yn 2010, gan briodi yn ninas Dulyn ym mis Tachwedd 2012. Fe fuon nhw’n byw gyda’i gilydd yn Llundain am gyfnod yn 2013, cyn i’w gŵr ddychwelyd i’w famwlad, Moroco, am flwyddyn a hanner rhwng Medi 2013 a Chwefror 2015.

Ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon, fe symudon nhw ill dau i Lundain yn 2016 a chael eu cartref eu hunain yn Barking; erbyn hynny, roedd ganddyn nhw ferch fach.

“Bryd hynny y dechreuodd fynd i’r mosg bob dydd,” meddai, “ac fe fyddai’n cymdeithasu gyda ffrindiau o’r mosg pan nad o’n i yno. Roedd yn arfer cuddio lluniau ohona’ i pan fyddai’r ffrindiau hyn yn dod i’n cartref ni.”