Mae Donald Trump wedi gwrthod cyfarfod ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, oherwydd ei fod yn “rhyw fath o rym negyddol”, yn ôl yr arlywydd.

Doedd Jeremy Corbyn ddim yn bresennol yn y wledd swyddogol a gafodd ei chynnal gan y Frenhines ar gyfer Arlywydd yr Unol Daleithiau neithiwr (dydd Llun, Mehefin 3).

Ac yn ystod ymweliad Donald Trump â Stryd Downing er mwyn cwrdd â Theresa May heddiw, roedd arweinydd yr wrthblaid yn annerch miloedd o brotestwyr yng nghanol dinas Llundain.

Yn ôl Donald Trump, roedd Jeremy Corbyn yn awyddus i gyfarfod “naill ai heddiw neu fory”, ond fe benderfynodd yr Arlywydd i wrthod y cais.

“O ble dw i’n dod, dw i’n meddwl ei fod e [Jeremy Corbyn] yn rhyw fath o rym negyddol,” meddai.

“Dw i’n meddwl y dylai pobol chwilio am ffyrdd o wneud pethau yn gywir yn hytrach na beirniadu.

“Dw i wir ddim yn hoffi feirniaid, ond dw i’n hoffi pobol sy’n cael pethau wedi eu gwneud – felly fe wnes i benderfynu peidio â chwrdd.”

Jeremy Corbyn yn awyddus i “gyfathrebu”

Mae’r Blaid Lafur wedi cadarnhau bod Jeremy Corbyn wedi gwneud cais am gyfarfod gyda Donald Trump.

“Fe gynigiodd Jeremy Corbyn gyfarfod gyda Donald Trump yn ystod ymweliad yr Arlywydd,” meddai llefarydd.

“Mae Jeremy yn barod i gyfathrebu â’r Arlywydd ar nifer o faterion, gan gynnwys yr argyfwng newid yn yr hinsawdd, bygythiadau i heddwch a’r argyfwng ffoaduriaid.”