Mae enwad yr Efengylwyr yn nhref Llanbedr Pont Steffan yng nghanol y gwaith o adeiladu tŷ cwrdd modern a fydd yn ceisio “cyrraedd allan i’r gymuned”.

Cafodd Eglwys Efengylaidd Llanbed ei sefydlu yn 1981, a thros y blynyddoedd mae’r enwad wedi bod yn cynnal cyfarfodydd yn Neuadd Fictoria.

Ond mae’r addolwyr bellach wedi penderfynu cymryd “cam mewn ffydd” ac adeiladu eglwys eu hunain a fydd yn medru dal hyd at 150 o bobol ac yn cynnig cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau crefyddol a chymunedol.

Mae’r adeilad newydd yn rhan o gaffi’r Hedyn Mwstard ar Stryd y Coleg, a’r nod yw ei agor yn swyddogol yn ystod tymor yr hydref eleni.

“Mae angen digon o le arnom ni”

Mae’r fenter wedi costio rhwng £500,000 a £700,000, gyda’r cyfan wedi ei gasglu mewn cronfa arbennig a gychwynnwyd gan sylfaenwyr yr Eglwys Efengylaidd yn yr 1980au.

“Ry’n ni wedi bod yn cyfarfod mewn neuadd gyhoeddus yn Llanbed ers sefydlu’r Eglwys yma yn 1981,” meddai Gareth Jones ar ran Eglwys Efengylaidd Llanbed.

“Ddes i ddim yma tan yr 1990au, ond rydyn ni wedi tyfu ac mae angen digon o le arnom ni a gofod.

“Mae cymaint o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal [yn Neuadd Fictoria], mae eich hunaniaeth chi yn gallu mynd ar goll.

“Yn ôl yn y blynyddoedd cyntaf, roedd y bobol oedd wedi sefydlu’r eglwys yn y lle cyntaf wedi bwriadu cael adeilad eu hunain. Roedd yna gronfa adeiladu, ac mae honno wedi bod yma ers blynyddoedd, ac mae wedi cynyddu ac mae pobol wedi cyfrannu ati…”

Eglwys fodern

Er bod bron i ddeg man addoli eisoes yn bodoli yn Llanbedr Pont Steffan, a hynny gan wahanol enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill, mae Gareth Jones yn dweud bod yna angen am eglwys fodern yn y dref a all gynnig “hyblygrwydd”.

“Yn y byd modern, un o’r manteision yw cael yr hyblygrwydd, fel eich bod chi’n gallu… defnyddio’r cyfleusterau sydd gyda chi mewn amrywiol ffyrdd fel eich bod chi’n gallu gwneud defnydd llawn o’r adeiladau,” meddai.

Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd gweddi, bydd yr eglwys newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau ar gyfer amrywiaeth o fudiadau a digwyddiadau Cymraeg a Saesneg.

“Dyna holl fwriad y grefydd Gristnogol, yw eich bod chi ddim yn cuddio’r peth ac yn ei chadw fe i chi eich hunain, ond eich bod chi’n cyrraedd allan i’r gymuned,” meddai Gareth Jones ymhellach.

“A dyna yw ein dymuniad ni – gweld y gymuned yn cael ei dylanwadu gan y ffydd Gristnogol ac yn cael ei thrawsnewid gan y ffydd Gristnogol.”

Dyma glip o Gareth Jones yn sôn mwy am y fenter…