Mae’r Aelod Cynulliad Neil McEvoy yn dal i ddisgwyl am benderfyniad Pwyllgor Aelodaeth, Safonau, a Disgyblu Plaid Cymru dros ei gais i ail-ymuno â nhw.

Cafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd am gyfnod o ddeunaw mis – a newidiwyd i 12 mis wedyn – ym mis Mawrth 2018 ar ôl iddo “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”.

Ym mis Mawrth eleni, daeth y cyfle iddo anfon cais i ail-ymuno, a chafodd y cais hwnnw ei anfon i Blaid Cymru ar Fawrth 31.

Dywedodd ar y pryd ei fod yn awyddus i sefyll dros Blaid Cymru yn Etholiad y Cynulliad yn 2021, a’i bod yn fwriad ganddo i ddisodli Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn sedd Gorllewin Caerdydd.

Mae’n golygu felly fod Neil McEvoy wedi disgwyl dros ddeufis, ac mae golwg360 yn deall nad oes dedlein penodol wedi ei osod pryd y bydd angen i’r Pwyllgor ddod i benderfyniad.

“Parhau i fynd”

“Fel y gwyddost o’r datganiad a wnaed ddechrau Ebrill, rydym wedi derbyn cais aelodaeth ac mae’r Pwyllgor Aelodaeth, Safonau, a Disgyblu nawr yn ystyried y cais hwnnw,” meddai llefarydd sr ran Plaid Cymru wrth golwg360.

“Gan fod proses y Pwyllgor o ystyried y cais yn parhau i fynd rhagddi, ni fyddai’n briodol i ni wneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.

“Fe fydd y Pwyllgor yn cymryd cymaint o amser ag sydd angen er mwyn ystyried y cais yn drylwyr a dod i benderfyniad.”