Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl lladd o leiaf pedwar o bobol ac anafu eraill yn ninas Darwin, Awstralia.

Dywed y Prif Weinidog Scott Morrison nad yw’r digwyddiad yn gysylltiedig â brawychiaeth.

Mae’r dyn 45 oed yn y ddalfa yn dilyn y saethu yn Palms Hotel yn ardal Woolner o’r ddinas, yn hwyr brynhawn heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 6).

“Mae hwn yn weithred ofnadwy o drais sydd yn barod wedi cymryd bywyd pedwar o bobol,” meddai’r Scott Morrison.