Mae dyn 33 oed wedi’i garcharu am fagio ei gar yn ôl ar hyd traffordd yr M25, a gwrthdaro â bws mini yn cario dynion ar eu ffordd i barti stag.

Mae Mihai Avram, o Egham, Surrey, wedi’i ddedfrydu i 16 mis o garchar a’i wahardd rhag gyrru am dair blynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Guildford.

Roedd hefyd wedi pledio’n euog i achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Surrey yn dweud iddo yrru ei fan Ford Transit wen rhwng cyffyrdd 13 a 12 ar yr M25, tua 1.25yb ar Hydref 1, 2018, pan ddaeth i stop ar y draffordd a bagio i’r cyfeiriad arall yn y lôn araf.