Mae dyn wedi cael ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad â char ger mosg yn Leicester.

Fe gafodd y cerddwr, sydd yn ei 40au, ei daro gan gerbyd ar ôl bod mewn cyfarfod gweddi am 1 o’r gloch y bore heddiw (dydd Iau, Mai 30).

Fe yrrodd y cerbyd ymaith wedi’r digwyddiad.

Mae mosg Masjid At-Taqwa wedi cadarnhau fod y gŵr yn un o’u haelodau, a’i fod wedi’i daro i lawr wrth adael Taraweeh – cyfarfod gweddi nosweithiol yn ystod tymor Ramadan.

Mae Heddlu Swydd Leicester yn dweud fod asesiad cyntaf o anafiadau’r gŵr yn awgrymu nad oedd wedi cael ei daro’n fwriadol gan yrrwr y car.

Mae plismyn yn gwneud ymholiadau yn yr ardal, ac yn trio dod o hyd i’r cerbyd.